Llenyddiaeth Cymru – Cyflwyniad i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Medi 2017

1.       Cyflwyniad

Dylai adolygiad annibynnol o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector cyhoeddi a llenyddiaeth wedi bod yn gyfle amserol i werthuso ffyniant y sector amlochrog hwn sydd o bwys diwylliannol.  Ers iddo gael ei sefydlu yn 2011, mae Llenyddiaeth Cymru wedi creu agenda democrateiddio llenyddiaeth a bu'n galw am sector mwy cysylltiedig ers tro.  Felly, roedd yn edrych ymlaen at ddarllen canfyddiadau'r adolygiad hwn.  Mae'n drueni bod y cyfle hwn wedi'i golli oherwydd diffygion sylweddol adroddiad yr Athro Medwin Hughes.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyflwyno ymateb llawn i Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd wedi cael ei rannu â'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Athro Hughes a'r panel ymateb yn fanwl iddo – yn ogystal ag ymateb i gyflwyniad gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dod i gasgliadau tebyg. Mae Llenyddiaeth Cymru yn disgwyl eglurhad ar nifer fawr o faterion, a chywiriadau i lawer o bethau oedd yn ffeithiol anghywir.

Mae pryderon Llenyddiaeth Cymru am yr adolygiad yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

         i.            Cadernid y sylfaen dystiolaeth

       ii.            Diffyg cysylltiad rhwng y dystiolaeth a'r argymhellion

      iii.            Y sylwadau partisan ac anghywir am Llenyddiaeth Cymru

     iv.            Diffyg gwybodaeth a diffyg ymchwil y panel wrth lunio barn am y dirwedd lenyddol

       v.            Gwrthdaro buddiannau aelodau o'r panel

     vi.            Y ffaith nad ymdriniwyd â Chylch Gorchwyl yr adroddiad

Yn sgil y ddadl gyhoeddus ers cyhoeddi'r adolygiad, mae'n hollol briodol bod y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i'r broses a wnaeth arwain at yr adroddiad diffygiol a rhannol hwn ac edrych ar ffyrdd y gall cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau llenyddiaeth a chyhoeddi ddiogelu'r arbenigedd a'r profiad sy'n bodoli ar hyn o bryd a hefyd wella cysylltedd y sector.

Yn y cyflwyniad cyfredol hwn, mae Llenyddiaeth Cymru yn egluro ei safbwynt ac yn cynnig dadansoddiad o'r effeithiau posibl os bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhellion yr adroddiad.

2.       Cylch Gwaith, Cenhadaeth a Meysydd Strategol Llenyddiaeth Cymru

2.1  Cylch Gwaith a Chenhadaeth

Llenyddiaeth Cymru yw'r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru ac mae'n aelod o Bortffolio Celfyddydau Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru. Fel y cyfryw, cylch gwaith Llenyddiaeth Cymru yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd drwy gefnogi awduron ac annog mwy o bobl i ymgysylltu'n greadigol â geiriau o bob math ar amrywiaeth o lwyfannau.

Fel y nodwyd yn ein Cynllun Busnes[1], mae cenhadaeth Llenyddiaeth Cymru yn seiliedig ar y gred bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ymhobman a, drwy weithio gydag eraill mewn ystod eang o gymunedau, gall Llenyddiaeth Cymru wneud llenyddiaeth yn llais i bawb. Gan weithio mewn pum maes strategol (Cymryd Rhan, Cefnogi Awduron, Plant a Phobl Ifanc, Rhyngwladol a Chreadigrwydd Digidol), mae Llenyddiaeth Cymru yn meithrin cydberthnasau o fewn y sector diwylliant a'r tu hwnt iddo er mwyn galluogi pobl i ddatblygu rhaglenni llenyddiaeth lleol cynaliadwy, gwella sgiliau, mynd i'r afael â materion anfantais gymdeithasol a hyrwyddo awduron o Gymru yma a thu hwnt.

Gan anelu at ddangos rhaglenni ategol Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, mae'n ddefnyddiol nodi yma sut mae cylch gwaith ac arbenigedd sefydledig Llenyddiaeth Cymru yn wahanol i'r hyn a geir o fewn Cyngor Llyfrau Cymru. Yn ei Gynllun Strategaeth (Mehefin 2016), mae Cyngor Llyfrau Cymru yn nodi mai ei genhadaeth yw ‘hyrwyddo a datblygu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru’ drwy gefnogi cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr yng Nghymru. Ffocws Cyngor Llyfrau Cymru felly yw cefnogi cyhoeddi fel diwydiant masnachol. Dyma le mae ganddynt brofiad. Mae arbenigedd Llenyddiaeth Cymru yn wahanol iawn. Dros y blynyddoedd, mae Llenyddiaeth Cymru wedi arloesi ym maes datblygu awduron, ymgysylltu creadigol a chymryd rhan yn llenyddol, gan annog arbrofi a chefnogi arallgyfeirio llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd.

2.2 Strategaeth Cymryd Rhan

Bob blwyddyn, mae staff arbenigol Llenyddiaeth Cymru yn datblygu prosiectau a mentrau gyda dros 200 o bartneriaid o sectorau gwahanol ac yn cyrraedd tua 160,000 o gyfranogwyr. Nod y prosiectau hyn yw mynd i'r afael â rhwystrau i gymryd rhan a thargedu grwpiau na fyddent yn cael mwynhau'r celfyddydau fawr ddim fel arall.  Drwy rwydwaith o bartneriaethau, mae Llenyddiaeth Cymru yn hwyluso gweithdai mewn carchardai, prosiectau gyda'r gymuned Teithwyr Sipsiwn Roma, gweithdai creu llyfrau comic gyda phobl ifanc NEET ac ysgrifennu gyda phobl â dementia. Enillodd partneriaeth hirsefydledig Llenyddiaeth Cymru â Charchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc wobr Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru[2] ym mis Mehefin 2017.

Mae wedi cymryd blynyddoedd i feithrin ymddiriedaeth a chydberthynas waith â'n partneriaid a'n cynulleidfaoedd. Mae llawer o'n cynulleidfaoedd yn cynrychioli'r aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Os byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn symud cyllid o Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru, gallai'r gwaith cymhleth a thringar hwn ddiflannu.

Mae prosiectau proffil uchel megis Roald Dahl 100 Cymru,[3] Ffrindiau Darllen[4] a mentrau datblygu llenyddiaeth rhanbarthol[5] yn dangos y gwerth y mae asiantaethau eraill yn amlwg yn ei weld yn Llenyddiaeth Cymru. Mae rhai o'r sefydliadau hyn yn Lloegr yn gweld Cymru fel meincnod rhagoriaeth yn y DU wrth ymgysylltu cynulleidfaoedd â llenyddiaeth. Mae'r ffaith bod Llenyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd wedi datblygu a chynnal y gwaith o ddatblygu awduron mewn meysydd arbenigol – e.e. gweithio gydag oedolion ifanc sy'n agored i niwed – yn golygu bod gennym gonsortiwm cryf o awduron o bob cefndir yn y ddwy iaith sy'n gallu gweithio yn y meysydd hyn. Nod Llenyddiaeth Cymru dros y 2-3 blynedd nesaf yw gwella'r cyfleoedd hyfforddi datblygu arbenigol hyn ymhellach.

Y drafodaeth am y maes hwn o waith yw un o'r rhannau mwyaf diffygiol yn Adroddiad Hughes. Nid yw'n cynnig unrhyw ddadansoddiad o effaith gymdeithasol gwaith Llenyddiaeth Cymru na'i lwyddiant wrth gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd drwy raglen Cyfuno a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Nid yw'r Adroddiad yn nodi unrhyw uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol chwaith. Mae hyn yn arwain at ddiffygion yn yr argymhellion a fyddai'n peryglu'r camau breision a gymerwyd yn y maes hwn ac yn cael effaith andwyol ar sefyllfa Cymru fel arweinydd ledled y DU yn y maes hwn.

2.3. Strategaeth Plant a Phobl Ifanc

Mae'n frawychus ym maes Plant a Phobl Ifanc nad yw Adroddiad Hughes unwaith eto yn cyflwyno unrhyw ddadansoddiad o weithgarwch strategol cyfredol cyn mynd ymlaen i argymell newidiadau a allai gael effaith andwyol. Fel y gwelwyd yn ein Strategaeth Cymryd Rhan, arbenigedd Llenyddiaeth Cymru o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc yw creu partneriaethau newydd a galluogi sefydliadau ac unigolion o gefndiroedd y tu allan i'r celfyddydau traddodiadol i ymgysylltu â gweithgarwch llenyddol ar sawl ffurf.

Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid i ymgysylltu tua 60,000 o blant a phobl ifanc mewn gweithgareddau llenyddiaeth.  Gwneir hyn drwy raglenni a ddarperir yn uniongyrchol megis Awdur Ieuenctid Cymru[6] a Bardd Plant Cymru[7] a drwy helpu ysgolion, clybiau ieuenctid, grwpiau gofalwyr ifanc, sefydliadau troseddwyr ifanc ac eraill i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o weithio gydag awduron ac artistiaid i ennyn diddordeb pobl ifanc.

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn arwain y ffordd o ran datblygu cyfleoedd perfformio i blant a phobl ifanc, sy'n gallu gwella hyder, hunanfynegiant a sgiliau cyfathrebu. Yn 2015 daeth Llenyddiaeth Cymru â'r gystadleuaeth hynod boblogaidd Slam Barddoniaeth i Gymru. Ffocws Barddoniaeth Slam yw annog trafodaeth wleidyddol ac actifiaeth gymdeithasol ymhlith pobl ifanc.  Uchelgais Llenyddiaeth Cymru yw galluogi tîm dwyieithog o Gymru i gystadlu ym mhencampwriaeth Slam y byd yn UDA.

Nid yw'r gwaith strategol, datblygiadol hwn yn rhywbeth y gellir ei drosglwyddo'n hawdd.  Mae'n strwythur cymhleth, cydweithredol, wedi'i adeiladu ar bartneriaethau cryf a gaiff eu creu a'u hwyluso gan Lenyddiaeth Cymru.

2.4. Strategaeth Cefnogi Awduron a'r diffiniad o lenyddiaeth

Yr anhawster cyntaf yma yw diffiniad Adroddiad Hughes o lenyddiaeth. Mae'r adroddiad yn cyflwyno cysyniad darfodedig sy'n canolbwyntio ar waith cyhoeddedig, nad yw'n cyfleu’r hyn sy'n digwydd bellach  – safbwynt mor gyfyngedig na all yr adroddiad ddadansoddi'r cyfraniad y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei wneud i lenyddiaeth yn ddigonol.

Tra bod adroddiad Hughes yn diffinio llenyddiaeth fel yr hyn sy'n rhagflaenu cyhoeddi yn unig, mae llenyddiaeth yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn rhywbeth llawer mwy dynamig, creadigol a diddorol. Yr hyn y mae'r adroddiad yn eu diystyru yw'r gair llafar, rap, arfer ar draws ffurfiau ar gelfyddyd, digidol, y nofel graffeg, ysgrifennu geiriau caneuon a sylwebaeth gemau – y mae pob un ohonynt yn rhan o'r ffordd rydym yn cysylltu â geiriau o bob math bob dydd. Gall amrywiaeth eang gweithgarwch Llenyddiaeth Cymru gefnogi llenyddiaeth ar bob ffurf: ariannu rhaglenni gwyliau; comisiynu prosiectau digidol; ysgoloriaethau ar gyfer crewyr nofelau graffeg; a phrosiectau llenyddiaeth a thechnoleg. Gellid colli'r sbectrwm pellgyrhaeddol hwn o weithgarwch a'r arbenigedd sylfaenol sy'n ei lywio os byddai argymhellion Adroddiad Hughes yn cael eu derbyn.

Mae dechrau o safbwynt mor gyfyngedig o lenyddiaeth yn golygu na all Adroddiad Hughes werthfawrogi'r amrywiaeth o awduron y mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda nhw i ddatblygu nifer o sgiliau. Mae perfformwyr ac artistiaid sy'n datblygu eu gwaith mewn lleoliadau eraill, llai traddodiadol – boed hynny drwy greu 'Instapoetry', allbwn gair llafar, neu drwy ddarparu gweithdai sydd wedi newid bywydau mewn cymunedau ledled Cymru. 

Mae awduron wrth wraidd gweithlu Llenyddiaeth Cymru. Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â dros 500 o awduron ac yn buddsoddi 25% o'i gyllideb mewn awduron unigol, sy'n golygu bod dros £300,000 yn mynd yn uniongyrchol i awduron sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Nod Llenyddiaeth Cymru yw cefnogi pob agwedd ar ddatblygiad awdur, drwy roi'r hwb cyntaf hwnnw i awdur newydd drwy Ysgoloriaeth Awduron i ysgrifennu ei nofel gyntaf, neu drwy ei hyfforddi i arwain gweithdai ysgrifennu creadigol gyda gofalwyr ifanc neu droseddwyr ifanc.

Mae llawer o'r rheini sy'n derbyn Ysgoloriaethau Awduron yn mynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith, ac mae llawer yn llwyddo i gael cytundeb llyfr gyda chyhoeddwyr y tu allan i Gymru – a all arwain at werthu swm sylweddol o lyfrau. Ni allai Adroddiad Hughes ddadansoddi gwerthiannau llyfrau a gyhoeddwyd yng Nghymru yn ddigonol oherwydd diffyg data. Fodd bynnag, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi cefnogi llawer o awduron sydd wedi mynd ymlaen i ennill canmoliaeth feirniadol a bod yn llwyddiant. Un enghraifft yw Kate Hamer a gafodd Ysgoloriaeth Awduron o £5,000.  Mae ei nofel The Girl in the Red Coat bellach wedi gwerthu 75,911 o gopïau, gan gynhyrchu £400,252 (Nielsen BookData ar werthiannau'r DU).

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi awduron o Gymru, p'un a ydynt am gyhoeddi ai peidio, p'un a ydynt yn cyhoeddi yng Nghymru neu'r tu hwnt.  Cenhadaeth Cyngor Llyfrau Cymru yw cefnogi'r diwydiant cyhoeddi o fewn Cymru, a phrin yw ei gydberthnasau sefydledig a'i arbenigedd yng nghyd-destun y diwydiant ledled y DU. Os bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhellion yr Adroddiad, mae perygl y gallai awduron sy'n cyhoeddi y tu allan i Gymru golli allan.

3.       Llywodraethu, Rheoli a Strwythurau

Mae beirniadaeth nas seiliwyd ar dystiolaeth Adroddiad Hughes o strwythurau llywodraethu Llenyddiaeth Cymru yn gwbl groes i safbwyntiau ein cyllidwyr a'n rheoleiddwyr. Caiff strwythurau a systemau adrodd ariannol Llenyddiaeth Cymru eu monitro'n agos gan ei Fwrdd ei hun, yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru, archwilwyr annibynnol, y Comisiwn Elusennau a Thŷ'r Cwmnïau. Mae gan Llenyddiaeth Cymru yr arbenigedd, y profiad a'r strwythurau rheoli i gyflawni a monitro ei gylch gwaith gweithgarwch llawn yn llwyddiannus. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio awduron yr Adroddiad i brofi fel arall.

Mae dull gweithredu cynhwysol Llenyddiaeth Cymru yn rhan o'i ethos craidd, sef hyrwyddo cyfle a mynediad cyfartal, ynghyd â ffordd ddynamig a meddwl agored o weithio. I gyflawni newid yng Nghymru, mae Llenyddiaeth Cymru o'r farn y dylai hyn ddechrau gyda'r sefydliad ei hun. Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch y caiff y gwerthoedd hyn eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad ei Fwrdd Rheoli a'i staff. Mae'r cyfarwyddwyr[8] yn cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol ac ethnig ac mae'r rhan fwyaf yn fenywod. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y celfyddydau yn hygyrch i bawb. 

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cydweithio â Chwarae Teg ar ei Rhaglen Cyflogwyr ar Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan hyrwyddo ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ymhellach. Mae hefyd wedi helpu llawer o aelodau o staff i gynnal hyfforddiant rheoli fel rhan o'r rhaglen Cenedl Hyblyg 2.

4.       Effaith economaidd

Mae'r cyllid mae Llenyddiaeth Cymru yn ei gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ei alluogi i ddarparu rhaglen graidd o weithgarwch a hefyd greu swm sylweddol o incwm ychwanegol.

Ers 2011/12, mae'r incwm y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei godi o ffynonellau eraill wedi cynyddu'n sylweddol.  Yn 2011/12 roedd grant refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynrychioli 74% o incwm Llenyddiaeth Cymru.  Erbyn 2015/16, roedd wedi gostwng i 61%. Yn y cyfnod hwn, mae'r incwm a'r cyllid ychwanegol y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu cael y tu hwnt i'w grant craidd wedi cynyddu 122%.

Hefyd, yn dilyn gwaith atgyweirio a chadwraeth diweddar yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae incwm o logi'r safle wedi cynyddu o £815 yn 14/15 i £8,085 yn 2015/16, a disgwylir £23,097 yn 2017/18.

Yn ogystal â gwariant uniongyrchol drwy'r gyllideb flynyddol, mae gweithgarwch Llenyddiaeth Cymru yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol a gwerth ychwanegol sylweddol. Am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn Llenyddiaeth Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, caiff £2.50 ychwanegol ei gynhyrchu.  Mae hyn yn cyfateb i £1.8m y flwyddyn, yn seiliedig ar ffigurau 2015-17, ac mae'n cynnwys £114,000 ychwanegol a grëwyd drwy bartneriaethau Awduron ar Daith a £326,000 ychwanegol a grëwyd drwy Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd mewn incwm masnachol yn ogystal â gwariant cyfranogwyr yn yr ardal leol. Ceir manylion pellach yn atodiad ii.

Fel sefydliad cenedlaethol, mae gan Llenyddiaeth Cymru staff yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Caiff mentrau Llenyddiaeth Cymru eu cyflwyno ledled Cymru, ac mae rhai swyddi yn gweithio ar draws ardaloedd Awdurdod Lleol – er enghraifft ein swyddogion datblygu llenyddiaeth rhanbarthol.

5.       Ffyrdd Strategol ymlaen

Mae Adroddiad Hughes yn syml ac yn swta yn awgrymu “dympio” gweithgareddau, heb feddwl am ymarferoldeb, terfynau amser, risgiau amlwg na goblygiadau ariannol trosglwyddiad o'r fath. Fel y nodwyd uchod, mae Llenyddiaeth Cymru o'r farn y byddai sector sydd wedi'i gysylltu'n fwy dynamig, lle y caiff arbenigedd cyfredol ei gadw a'i wella, yn gwasanaethu pobl Cymru yn well. Byddai canoli yn bygwth yr egwyddor hyd braich – egwyddor y dylai pob un ohonom ei harddel mewn cenedl ddemocrataidd aeddfed. Byddai Llenyddiaeth Cymru yn croesawu'r cyfle i gydweithio'n strategol â'r holl randdeiliaid allweddol er mwyn datblygu blaengynllun sy'n defnyddio arbenigedd sefydledig mewn ffordd fwy cytûn. Mae'r diagram yn atodiad i yn dangos rolau presennol Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, ac yn cynnig meysydd cadarnhaol ac ymarferol ar gyfer mwy o gydweithredu.

Bydd hyn yn adeiladu ar y weledigaeth bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb, ac yn sicrhau ffyniant ein diwylliant unigryw o eiriau ar gyfer y dyfodol.

 

Llenyddiaeth Cymru, Medi 2017

 

 



[1]https://issuu.com/llencymru-litwales/docs/llenyddiaeth_cymru_-_cynllun_busnes

[2]http://cymraeg.aandbcymru.org.uk/celfyddydau-busnes-ar-gymuned-2017/?force=2

[3]http://www.roalddahl100.cymru/dyfeisio-digwyddiad/

[4]http://www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/ffrindiau-darllen-cymru/

[5]http://www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/south-wales-literature-development-initiative/

[6]http://www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/young-peoples-laureate-wales/

[7]http://www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/bardd-plant-cymru/

[8]http://www.llenyddiaethcymru.org/about/bwrdd-rheoli-2/